Croeso i Wefan Celf ar y Blaen!
Mae Celf ar y Blaen yn ysgogi creadigrwydd mewn cymunedau ledled ardal Blaenau’r Cymoedd drwy ddarparu gweithgareddau celf ansawdd uchel a phrofiadau celf sy’n ysbrydoli.
Mae Celf ar y Blaen yn sefydliad celf cymunedol sy’n gweithio ar draws ardaloedd Dwyrain Blaenau’r Cymoedd yn cynnwys bwrdeisdrefi sirol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen. Sefydlwyd Celf ar y Blaen ym mis Ebrill 2008 ac mae ei swyddfa yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd ond mae’n trefnu gweithgareddau celf mewn gwahanol ganolfannau ym mhob rhan o’r ardal.
Ariannir Celf ar y Blaen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a chaiff ei gefnogi gan bartneriaeth o’r pedwar awdurdod lleol sy’n gysylltiedig
Gwelwch beth sy’n mynd ymlaen ar draws y rhanbarth drwy glicio ar y Dyddiadur Prosiect a chwilio yn ôl ardal




